First FWAG Cymru Conference
The Farming and Wildlife Advisory Group, Cymru (FWAG Cymru) held their first conference at the International Pavilion, Royal Welsh Showground, Builth Wells, on Thursday, 12th June. The conference's title was "Nature in Balance - the Need for Intervention?" The event was kindly sponsored by AMC, CLA Wales and Kings It was very well attended with delegates from throughout Wales & further afield; comprising farmers and representatives of both farming and conservation organisations. Elin Jones, Minister for Rural Affairs at the Welsh Assembly addressed the conference and highlighted the important role land managers in general, and farmers in particular, play in food production and caring for the environment. She also stressed the social contribution of farming families and her determination to ensure that the next generation are supported in continuing in these important roles. She explained that The Assembly is currently reviewing its agri-environment schemes and the Minister urged farmers and their representatives to feed in to this process.
The conference was ably chaired by John Lloyd-Jones, Chairman of the Countryside Council for Wales. The key-note speaker Robin Marshall-Ball, the British Association for Shooting and Conservation (BASC) Somerset Levels Project Officer surprised the audience by starting his presentation in Welsh, his native tongue. He works on the Green Shoots Project in Somerset which encourages shoot managers to increase the amount of work they undertake to the benefit of wildlife. BASC and FWAG Cymru are partners in a similar project, Green Shoots in North Wales, funded by the Countryside Council for Wales and Environment Agency Wales. He entertained the delegates as well as explaining why intervention is necessary to keep our remaining wildlife, reverse declines and re-instate losses. All this taking into account of human economics.
Craig Shuttleworth of the Anglesey Red Squirrel project explained how a targeted, focused initiative can reverse declines. In this case, the reduction in grey squirrel numbers not only allows the native red squirrel to survive, and hopefully thrive; but also leads to healthier deciduous woodlands as the greys bark strip young trees causing untold damage. Liz Howe of the Countryside Council for Wales explained that the fragmentation of habitats was of great concern and that there was an urgent need to reverse that trend. Farmers and other land managers had a pivotal role to play in this.
Simon Thorp, Director of the Heather Trust urged farmers to take a more active, if not lead role in producing environmental management plans for their farms, or group of farms. Simon had spent the two days previous to the conference with FWAG Cymru farmer members at farms within the Brecon Beacons National Park and the Berwyn. He had seen the practicalities facing farmers within these areas, and learnt of the prescriptive nature of many of the agri-environment agreements. He challenged farmers to think laterally, embrace opportunities and be prepared for change whilst incorporating the best of tradition.
He stressed that people are the most important factor in ensuring land management in balance. He went on to explain that farming is vitally important in maintaining the balance, with grazing management an essential ingredient; proclaiming that "Good grazing is good".
The role Wales' farmers play in storing carbon in vast amounts within the peat of the uplands was highlighted as well as their role in retaining water on farmland, so helping to reduce the risk of flooding . The roles become more significant with continuing climate change, and there are opportunities to extend them, and apportion a value of these "services" to society. Martin Waite, Regional Agricultural Manager for AMC said "We at AMC are delighted to be associated with such a successful event, and look forward to being involved in the next." Julian Salmon, Director of co-sponsors, CLA Wales, added "We at CLA Wales are likewise extremely pleased to have been involved and are delighted to hear farmers being given credit for the environmental management they currently undertake. As we heard at the conference, food prices are currently increasing globally due to market forces; and we need to ensure that monies from the public purse are forthcoming in proportionally higher amounts to fund and support farmers in continuing to produce the environmental goods discussed by the speakers."
Cynhadledd Gyntaf FWAG Cymru
Cynhaliodd Gr?p Ymgynghorol Ffermio a Bywyd Gwyllt Cymru (FWAG Cymru) eu cynhadledd gyntaf yn y Pafiliwn Rhyngwladol, Maes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd ar ddydd Iau, 12fed Mehefin. Teitl y gynhadledd oedd "Natur yn y Fantol - yr Angen am Ymyrraeth?" Cafodd y gynhadledd ei noddi yn garedig gan AMC, CLA Cymru a Kings. Daeth nifer dda o gynrychiolwyr i'r gynhadledd o Gymru ben baladr ac ymhellach; roedd y rhain yn cynnwys ffermwyr a chynrychiolwyr mudiadau ffermio a chadwraeth. Cafwyd anerchiad gan Elin Jones, Gweinidog Materion Gwledig yn Llywodraeth Cynulliad Cymru a thynnodd sylw at y rôl bwysig mae rheolwyr tir yn gyffredinol ac amaethwyr yn arbennig yn ei chwarae o ran cynhyrchu bwyd a gofalu am yr amgylchedd. Pwysleisiodd hefyd y cyfraniad cymdeithasol roedd teuluoedd fferm yn ei wneud a pha mor benderfynol yr oedd hi i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn cael cefnogaeth i barhau gyda'r swyddogaethau pwysig yma. Esboniodd fod y Cynulliad ar hyn o bryd yn adolygu ei gynlluniau amaeth-amgylcheddol ac anogodd y Gweinidog y ffermwyr a'u cynrychiolwyr i fwydo i'r broses yma.
Cadeirydd medrus y gynhadledd oedd John Lloyd-Jones, Cadeirydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Y prif siaradwr oedd Robin Marshall-Ball, Swyddog Prosiect Somerset Levels y Gymdeithas Brydeinig Saethu a Chadwraeth (BASC) a synnodd ei gynulleidfa drwy ddechrau ei gyflwyniad yn y Gymraeg, ei famiaith. Mae yn gweithio ar Brosiect ‘Green Shoots' yng Ngwlad yr Haf sy'n annog rheolwyr ardaloedd saethu i gynyddu'r gwaith a wnânt er lles bywyd gwyllt. Mae BASC a FWAG Cymru yn bartneriaid mewn prosiect tebyg, Hadau Gwyrdd yng Ngogledd Cymru, sy'n cael ei ariannu gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru. Bu'n difyrru'r cynrychiolwyr yn ogystal ag esbonio pam fod ymyrraeth yn angenrheidiol i gadw'r bywyd gwyllt sydd gennym, i drawsnewid dirywiad ac adfer unrhyw golledion - hyn i gyd gan roi sylw i economeg ddynol.
Esboniodd Craig Shuttleworth o Brosiect y Wiwer Goch yn Ynys Môn sut y gall menter wedi ei thargedu gyda ffocws pendant wrthdroi unrhyw ddirywiad. Yn yr achos yma mae'r gostyngiad yn nifer y wiwer lwyd nid yn unig yn caniatáu i'r wiwer goch frodorol i oroesi, ond hefyd gobeithio i ffynnu; ond mae hefyd yn arwain i goetiroedd collddail iachach gan fod y wiwer lwyd yn tynnu rhisgl coed ifanc gan achosi llawer o ddifrod. Esboniodd Liz Howe o Gyngor Cefn Gwlad Cymru, fod darniad cynefinoedd o bryder mawr ac roedd angen brys i wrthdroi'r tueddiad hwnnw. Roedd gan ffermwyr a rheolwyr tir eraill rôl ganolog i'w chwarae yn hyn.
Anogodd Simon Thorp, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Grug (Heather Trust), i ffermwyr gymryd rôl fwy gweithredol os nad arweiniol i gynhyrchu cynlluniau rheolaeth i'w ffermydd, neu i gr?p o ffermydd. Roedd Simon wedi treulio'r ddau ddiwrnod cyn y gynhadledd gydag aelodau o FWAG Cymru sy'n ffermwyr yn ardal Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac ardal mynyddoedd y Berwyn. Roedd wedi gweld y pethau ymarferol oedd yn wynebu ffermwyr yn yr ardaloedd hyn, ac wedi dysgu am natur benodol llawer o'r cytundebau amaeth-amgylcheddol. Roedd wedi rhoi her i'r ffermwyr i feddwl mewn ffordd ddargyfeiriol, i groesawu cyfleoedd a bod yn barod am newid tra ar yr un pryd ymgorffori'r traddodiadau gorau.
Pwysleisiodd mai pobl yw'r ffactor bwysicaf wrth sicrhau bod rheolaeth y tir mewn cydbwysedd. Aeth rhagddo i esbonio fod ffermio yn hanfodol bwysig i gynnal cydbwysedd, gyda rheolaeth pori yn elfen bwysig a dywedodd fod "Pori da yn beth da".
Cafodd y rhan mae amaethwyr Cymru yn ei chwarae yn storio carbon mewn symiau mawr ym mawn yr ucheldir sylw yn ogystal â'u rôl yn cadw d?r ar dir fferm, gan felly leihau'r peryglon o lifogydd. Roedd y rholiau yn dod yn fwy arwyddocaol gyda'r hinsawdd yn parhau i newid ac roedd cyfleoedd i'w hymestyn ac i bennu gwerth ar y ‘gwasanaethau' hyn i'r gymdeithas.
Dywedodd Martin Waite, Rheolwr Amaethyddol Rhanbarthol i AMC "Rydym ni yn AMC yn hynod o falch o fod yn gysylltiedig gyda digwyddiad mor llwyddiannus, ac edrychwn ymlaen at fod yn rhan o'r nesaf." Ychwanegodd Julian Salmon, Cyfarwyddwr y cyd- noddwyr CLA Cymru, "Rydym ni yn CLA Cymru hefyd yn arbennig o falch o fod yn gysylltiedig ac wrth ein boddau fod ffermwyr yn cael clod am y gwaith rheoli amgylcheddol a wnânt ar hyn o bryd. Fel y clywyd yn y gynhadledd mae prisiau bwyd yn awr yn cynyddu drwy'r byd oherwydd grymoedd y farchnad; ac mae angen i ni sicrhau fod mwy o arian yn dod o'r pwrs cyhoeddus i ariannu a chefnogi ffermwyr fel eu bod yn parhau i gynhyrchu'r nwyddau amgylcheddol a drafodwyd gan y siaradwyr."
Disclaimer Privacy Policy About this site © 2008 FWAG