Bryndreiniog Farm, Penybont Fawr.
LAUNCHED almost two years ago, FWAG Cyntaf is helping Welsh farmers make informed decisions about their environmental activities.
The service, developed specifically to meet the needs of farming in Wales, allows farmers to call on a range of support from the 10-strong FWAG Cymru team who have many years’ experience in topics ranging from whole farm advice, biodiversity and agri-environment schemes to nutrient management and soil protection.
Dr Glenda Thomas, Director of FWAG Cymru explained that FWAG Cyntaf starts with a visit to discuss the farmer’s plans for the future of the business and then looks at the environmental and conservation elements to see how these can fit in.
One farmer who has seen the benefits is Hywel Roberts of Bryn Dreiniog Farm, Penybont Fawr near Oswestry. Not only does he run a commercial farm extending to some 240 ha, carrying 1150 ewes and 44 Welsh Black suckler cows, but he also takes pride in the way wildlife has been encouraged to flourish through various environmental initiatives.
“I get great satisfaction seeing the landscape and wildlife developing here alongside commercial farming,” reflected Mr. Roberts. “Keeping abreast of changing environmental rules and guidelines can be difficult at times, but I feel that the results are worth the effort.”
Bryn Dreiniog Farm is a haven for wildlife. Mountain land within the Berwyn Site of Scientific Interest (SSSI) accounts for about half the area and is farmed under an SSSI management agreement; whereas the lower lying land in the Tanat Valley benefits from being in Tir Gofal.
Mr Roberts said he valued the independent advice available to him from his advisor, Bethan Roberts.
“It is extremely useful to have my FWAG Cymru advisor to assist with preparing Tir Gofal plans, drawing up capital works schemes and negotiating my Berwyn SSSI agreement. She and her colleagues also help to ensure that we meet crucial cross compliance standards.”
Fferm Bryndreiniog, Penybont Fawr.
Ers ei lansio bron ddwy flynedd yn ol, mae FWAG Cyntaf yn helpu ffermwyr Cymru i wneud penderfyniadau ynglyn a'u gweithgareddau amgylcheddol.
Mae'r gwasanaeth, a ddatblygwyd yn benodol i gwrdd ag anghenion ffermio yng Nghymru, yn galluogi ffermwyr i droi am gymorth at y tim FWAG Cymru 10 aelod a'u blynyddoedd lawer o brofiad mewn pynciau'n amrywio o gyngor fferm gyfan, bioamrywiaeth a chynlluniau amaeth-amgylcheddol i reoli maethynnau a diogelu pridd. Eglurodd Dr Glenda Thomas, Cyfarwyddwraig FWAG Cymru, mai cam cychwynnol FWAG Cyntaf yw ymweliad i drafod cynlluniau'r ffermwr ar gyfer dyfodol y busnes a bydd wedyn yn edrych ar elfennau'n ymwneud a'r amgylcheddd a chadwraeth i weld sut y gellir eu hymgorffori.
Un ffermwr a welodd y manteision o fod yn aelod o FWAG Cyntaf yw Hywel Roberts, Fferm Bryndreiniog, Penybont Fawr ger Croesoswallt. Mae’n rhedeg fferm fasnachol 240 hectar, ag arni 1150 o famogiaid a 44 o wartheg sugno Duon Cymreig, ac mae hefyd yn falch o’r ffordd y cafodd bywyd gwyllt ei annog i ffynnu drwy amryw o fentrau amgylcheddol.
“Rydw i’n cael llawer o foddhad wrth weld y tirlun a bywyd gwyllt yn datblygu ochr yn ochr â’r ffermio masnachol” meddai Mr Roberts. “Gall ddilyn rheolau a chanllawiau amgylcheddol sy’n newid, fod yn anodd ar adegau, ond teimlaf fod y canlyniadau yn cyfiawnhau’r ymdrech.”
Mae Fferm Bryndreiniog yn nefoedd i fywyd gwyllt. Tir mynydd ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) y Berwyn yw tua hanner y tir a chaiff ei ffermio o dan gytundeb rheoli SoDdGA; tra bo’r tir is yn Nyffryn Tanat yn elwa o fod yn rhan o gynllun Tir Gofal.
Dywedodd Mr Roberts ei fod yn gwerthfawrogi’r cyngor annibynnol sydd ar gael iddo gan ei gynghorydd, Bethan Roberts.
“Mae fy nghynghorydd FWAG Cymru o ddefnydd enfawr wrth gynorthwyo gyda pharatoi cynlluniau Tir Gofal, llunio cynllunio gwaith cyfalaf a thrafod fy nghytundeb SoDdGA yn y Berwyn. Mae hi a’i chydweithwyr hefyd yn helpu i sicrhau ain bod yn cwrdd â safonau trawsgydymffurfio hollbwysig.”
Disclaimer Privacy Policy About this site © 2008 FWAG