North Wales Projects / Prosiectau Gogledd Cymru

River Clwyd Catchment / Dalgylch Afon Clwyd

From October 2007 on, FWAG Gogledd Cymru/ North Wales FWAG will be undertaking 30 on-farm visits within the River Clwyd catchment to advise farmers on point source and diffuse pollution issues on behalf of the River Clwyd Catchment Sensitive Farming Initiative co-ordinated by the Environment Agency Wales. The advice will cover all aspects of potential farm pollution sources and offer practical solutions to militate against any likely incidences.

O fis Hydref  2007 ymlaen bydd FWAG Gogledd Cymru yn cynnal 30 o ymweliadau a ffermydd yn nalgylch afon Clwyd.  Diben yr ymweliadau fydd cynghori ffermwyr am faterion ffynhonnell llygredd a llygredd gwasgaredig ar ran Menter Ffermio Sensitif Dalgylch Afon Clwyd a gydlynir gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.  Bydd y Cyngor a roddir yn cynnwys holl agweddau ffynonellau llygredd fferm posib ac yn cynnig atebion ymarferol i ymdrin ag unrhyw ddigwyddiadau posib.


Anglesey Grazing Animals Project / Prosiect Anifeiliaid Pori Ynys Môn

From February to April 2007, FWAG Gogledd Cymru/ North Wales FWAG undertook over 30 site visits to both statutory (e.g. SSSI sites) and non-statutory wildlife sites on behalf of the Anglesey Grazing Animals Project partners -PONT ( Wales’ Grazing Animals Project), North Wales Wildlife Trust, Countryside Council for WAles and National Trust) to investigate their ecological condition. From these visits, a comprehensive report, in conjunction with an independent consultant Mr Bill Grayson, was written giving guidance for the future direction of the project to return conservation grazing to these important sites over the next 10 years.

Rhwng Chwefror ag Ebrill 2007 bu FWAG Gogledd Cymru yn cynnal 30 o ymweliadau safle â safleoedd bywyd gwyllt statudol (e.e. Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) a rhai nad ydynt yn statudol ar ran partneriaid Prosiect Anifeiliaid Pori Ynys Môn -PONT (Prosiect Anifeiliaid Pori Cymru), Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol) i archwilio eu cyflwr ecolegol.  Yn dilyn hyn lluniwyd adroddiad cynhwysfawr ar y cyd ag ymgynghorydd annibynnol, Mr Bill Grayson, yn rhoi arweiniad i gyfeiriad y prosiect yn y dyfodol i ddychwelyd i bori cadwraethol yn y safleoedd pwysig hyn dros y 10 mlynedd nesaf.

Green Shoots in North Wales / Hadau Gwyrdd  yng Ngogledd Cymru

By the end of March 2007, FWAG Gogledd Cymru/ North Wales had completed 12 on-shoot visits on behalf of the British Association for Shooting & Conservation (BASC) to help them deliver important aspects of their biodiversity action plan, Green Shoots. The visits examined all the habitats on the shoots and benchmarked these for future evaluation. The visits also suggested a number of actions the site owners can implement including monitoring of species and simple works to improve the diversity of the shoots. Such works  included the erection of nest boxes in suitable locations and the creation of more ‘edge’ to areas of scrub. 

Erbyn diwedd Mawrth 2007,  roedd FWAG Gogledd Cymru wedi cwblhau  12 o ymweliadau â thiroedd hela ar ran Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain  (BASC) i’w helpu i gyflawni agweddau pwysig o’r cynllun gweithredu bio-amrywiaeth, Hadau Gwyrdd. Yn ystod yr ymweliadau edrychwyd ar yr holl gynefinoedd a’r mannau saethu gan eu meincnodi i’w cloriannu yn y dyfodol.  Cafwyd nifer o awgrymiadau yn ystod yr ymweliadau y gallai perchnogion y safleoedd eu gwneud gan gynnwys monitro’r rhywogaethau a gwaith syml i wella amrywiaeth y tiroedd hela.  Roedd y gwaith yma’n cynnwys gosod blychau nythu mewn mannau addas a chreu mwy o ‘ochrau’ ar gyfer prysg. 
 


Panel Left